Prosiect Hwsh

Diweddariad:

Yn anffodus, o ganlyniad i COVID-19, roedd rhaid gohirio Project Hush, ond ni allwn aros i berfformio’r stori anhygoel hon ynghyd â’n cyd-gynhyrchwyr, Theatr Clwyd, cyn gynted ag y bo modd.

Mae yna gyfrinach yn Nyffryn Rhydymwyn: ar un adeg roedd yn ganolbwynt y ras i adeiladu’r bom atomig cyntaf. Yn 1940, cyfrifodd dau ffisegydd, Otto Frisch a Rudolph Peierls (ym Mhrifysgol Birmingham), bod hi’n bosib adeiladu bom atomig, ond roedd angen safle addas arnynt i brofi eu damcaniaethau. Dewisodd Llywodraeth Prydain Fawr Gweithfeydd Dyffryn Rhydymwyn fel y lle hwnnw. Cafodd y mathemategydd Klaus Fuchs (a gafwyd yn euog yn ddiweddarach o ysbïo) ei gyflogi i oruchwylio’r profion yn Rhydymwyn, a chadarnhaodd yr arbrofion fod bom atomig yn wir yn bosibl. Aeth y gwyddonwyr hyn ymlaen i weithio ar ‘The Manhattan Project’, a helpu adeiladu’r bom a fyddai’n dinistrio Hiroshima. Mae Kyoko Gibson yn byw yng Nghwmtwrch Uchaf, mae hi’n un o oroeswyr y bomio yn Hiroshima. Ei stori hi, a stori’r gwyddonwyr, yn ogystal â’r menywod lleol a gafodd eu drafftio i weithio ochr yn ochr â nhw (yn anwybyddus o union pwrpas eu gwaith), yw’r ysbrydoliaeth sydd wrth wraidd Project Hush.

Wedi ei greu gan Bridget Keehan a’i ysgrifennu gan Matthew Bulgo, Manon Wyn Jones a Yasuro Ito.