A Visit

Cyflwyna Llwybr Papur, mewn cydweithrediad â Clean Break, perfformiad cynta’r byd o ddrama newydd, rymus Siân Owen, A Visit.

Mae’n ddrama am drosedd, cyfiawnder a gofal, sy’n holi cwestiynau am bwy sydd i ofalu am y plant pan gaiff mam ei charcharu.

Mae Angharad, merch 15 mlwydd oed, yn ymweld â’i mam, Ffion, mewn carachardy sy’n bell iawn o’u cartref yn Aberdâr. Mae ei Anti Carys wedi bod yn gwneud ei gorau i ofalu amdani, ond mae gofalu ar ôl plentyn yn ei harddegau yn medru bod yn heriol, a ‘dyw Carys erioed wedi bwriadu bod yn fam. Pwy felly sydd i ofalu am Angharad?

Wedi ei ysbrydoli gan straeon go iawn menywod a phobol ifanc y buon nhw’n cydweithio gyda, mae Llwybr Papur a Siân Owen wedi creu darn gafaelgar o theatr.

Rhagolwg | Previews – 

30 Medi | September 7.30pm
1 Hydref | October 7.30pm

2 – 5 Hydref  / October – 7.30pm 


2 & 5 Hydref / October 2.30pm

BSL – Claire Anderson & Cathryn Mcshane

All performances except 5 October BSL interpreted & Captioned

Tocynnau / Tickets £5 – £12 BOOK HERE

GWEITHDAI

Ffotos / Photos:  Kirsten McTernan