Noson yn y Carchar

Mae A Night in the Clink yn berfformiad ar ffurf swper theatrig, wedi ei leoli ym Mwyty’r Clink, yng ngharchar Caerdydd. Mae tri dyn, sy’n dod i ddiwedd eu dedfryd, yn coginio ac yn gwasanaethu’r gynulleidfa tra’n rhannu eu straeon a’r breuddwydion sydd ganddynt am eu bywydau ar ôl iddynt cael eu rhyddhau.

Datblygodd y straeon o gyfres o weithdai gyda thîm y Clink yng Nghaerdydd, a gyda phobol sy’n bwrw eu dedfrydau yng Ngharcharau Prescoed a Chaerdydd. Cafodd y cynhyrchiad ei greu a’i gyfarwyddo gan Bridget Keehan a’i ysgrifennu gan Matthew Bulgo, Branwen Davies a Tracy Harris.

Fe’i cynhyrchwyd mewn partneriaeth â Theatr y Sherman ac Mwyty’r Clink, CEM Caerdydd.

Adolygiadau:

The Stage

Nation Cymru

Wales Arts Review